Yn ystod ein cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio o bum wythnos, a ddaeth i ben ym mis Medi, cafwyd bron 500 o ymatebion gan aelodau’r cyhoedd ac ymgyngoreion arbenigol.

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ystod y cyfnod ymgynghori ac a rannodd eu barn am y cynigion ar gyfer Llynnoedd Hendre a Parcffordd Caerdydd. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ystyried eich holl ymatebion, a byddwn yn ymateb i’r rhain fel rhan o’r ymgynghoriad cyn ymgeisio sy’n ffurfio rhan o’r cais cynllunio.

Nod datblygiad Llynnoedd Hendre, sy’n cynnwys gorsaf drenau Parcffordd Caerdydd, yw cysylltu De Cymru, gan ddod â swyddi a buddsoddiad i’r rhanbarth. Bydd y datblygiad yn cyfrannu’n sylweddol at adfywio dwyrain Caerdydd ac uchelgeisiau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran ei thwf. Mae gan y datblygiad y potensial i gefnogi hyd at 6,000 o swyddi, yn ogystal â gweithredu fel hwb trafnidiaeth, gan helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth eraill ledled De Cymru a thu hwnt.

Gallwch ddod o hyd i’r holl ddogfennau ymgynghori o hyd yn ein Llyfrgell Dogfennau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy:

E-bost: communityrelations@cardiffhendrelakes.com

Rhadffôn: 0800 464 0850

Rhadbost: RHADBOST LLYNNOEDD HENDRE

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am Lynnoedd Hendre Caerdydd

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch
ar gyfer ein rhestr bostio:

Newsletter signup