Mae Parcffordd Caerdydd yn orsaf drenau arfaethedig newydd yn natblygiad Llynnoedd Hendre a disgwylir iddi groesawu mwy na 800,000 o deithwyr y flwyddyn.

Cysylltu pobl, y rhanbarth a’r economi

Wedi’i lleoli saith munud yn unig o orsaf Caerdydd Canolog a Chasnewydd De Cymru, nod yr orsaf yw lleihau amseroedd teithio i’r ddwy ddinas yn sylweddol, yn ogystal â gwella cysylltedd ag ardaloedd eraill o’r wlad a’r DU yn ehangach.

Mynediad i bobl leol

Bydd cymunedau cyfagos wedi’u cysylltu â’r datblygiad a’r orsaf drenau drwy lwybrau beicio a cherdded newydd. Byddai cyfleusterau bws yn ei gwneud hi’n haws i wasanaethau lleol alw heibio’r orsaf a bydd cyfleusterau parcio a gollwng.

Argraff arlunydd o sut y gallai gorsaf Parcffordd Caerdydd edrych y tu mewn
Cliciwch yma i ehangu

Hyb trafnidiaeth gynaliadwy

Drwy ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus well a gorsaf newydd a fydd yn cynnwys llefydd parcio, ein nod yw sicrhau ei bod mor gyfleus â phosibl i bobl barcio eu ceir a chyrraedd y trên. Y gobaith yw y bydd hefyd yn helpu i leihau tagfeydd pan fydd digwyddiadau mawr, megis gemau rygbi yn cael eu cynnal yng nghanol Caerdydd.

Argraff arlunydd o sut y gallai gorsaf Parcffordd Caerdydd edrych y tu allan
Cliciwch yma i ehangu

Er bod y prosiect ar gam cynnar, nod Parcffordd Caerdydd yw dod ag amrywiaeth o fuddiannau hirdymor i’r ardal leol a’r rhanbarth ehangach, gan gynnwys:

Cyflwyno busnesau a buddsoddiadau newydd yn Ne Cymru
Galluogi pobl i gael cyfleoedd swyddi newydd ar y safle ac mewn lleoedd eraill
Cysylltu pobl ag ardaloedd eraill yng Nghymru a’r DU
Annog pobl ledled De Cymru i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy

Arhoswch yn wybodus am Llynnoedd Hendre Caerdydd

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio:

Newsletter signup