Hoffem ddiolch i chi am gymryd amser i ddysgu am ein cynigion ac rydym yn eich annog i gymryd rhan drwy roi eich adborth ar y prosiect. Gallwch wneud hyn drwy gwblhau un o’n ffurflenni adborth.

Fe wnaethom gynnal cyfnod o bedair wythnos o ymgysylltu â’r cyhoedd rhwng dydd Mercher 20 Tachwedd a dydd Mercher 18 Rhagfyr 2019. Rydym nawr yn cynnal ein hymgynghoriad ffurfiol cyn- ymgeisio i chi roi adborth ar ein cynigion cyn i ni gyflwyno ein ceisiadau cynllunio i Gyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd. Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Mercher 05 Awst tan ddydd Mercher 09 Medi 2020.

Gyda’ch cefnogaeth, gallwn greu datblygiad cwbl unigryw sy’n dod â buddsoddiad i’r rhanbarth, sy’n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd, ac yn cysylltu pobl â’r dirwedd.

Dweud eich dweud

Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymateb i’n hymgynghoriad cyn-ymgeisio yn ein Llyfrgell Ddogfennau, gan gynnwys ein llyfryn ymgynghori a’n dogfennau cynllunio drafft.

I ddweud eich dweud, cwblhewch ffurflen adborth ar-lein neu lawrlwythwch ac argraffwch gopi o’r llyfrgell ddogfennau a’i hanfon i gyfeiriad i’n cyfeiriad rhadbost (nid oes angen stamp): FREEPOST HENDRE LAKES.

Os bydd angen copi caled o ffurflen adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Arhoswch yn wybodus am Llynnoedd Hendre Caerdydd

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio:

Newsletter signup