Cardiff Parkway Developments Limited
Hysbysiad Preifatrwydd
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2019
Mae’n bwysig bod ein cwsmeriaid yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn llawn. Mae’n esbonio pwy ydym ni, sut a pham rydym yn casglu data personol oddi wrthych chi, sut a pham y bydd yn cael ei brosesu gennym ni, a’n hymrwymiad ni i ddiogelu eich data.
Fodd bynnag, os nad oes gennych amser i’w ddarllen yn llawn, rydym wedi crynhoi’r pwyntiau allweddol ar eich cyfer yn ein hadran ‘cip cyflym’ isod.
CIP CYFLYM
- Mae Cardiff Parkway Developments Limited (ni neu ein) wedi ein cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a’n rhif cofrestru yw ZA557299.
- Rydym yn prosesu (h.y. yn trin) eich data personol er mwyn darparu ein gwasanaethau i chi. O dan gyfraith diogelu data, dim ond pan fo gennym sail gyfreithiol dros wneud hynny y caniateir i ni brosesu eich data personol. Dim ond yn unol â chyfreithiau perthnasol y byddwn yn prosesu eich data personol.
- Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda’n cyflenwyr trydydd parti er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau mewn modd effeithlon a diogel i chi. Ac eithrio fel yr eglurir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, ni fyddwn yn rhannu eich data â thrydydd partïon heb eich cydsyniad chi oni bai fod gofyn i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
- Byddwn yn cadw eich data personol am gyhyd ag y bydd ei angen arnom. Mae pa mor hir y bydd angen eich data personol arnom yn dibynnu ar yr hyn yr ydym yn ei ddefnyddio ar ei gyfer, boed hynny i ddarparu gwasanaethau i chi, er ein buddiannau cyfreithlon ein hunain (a ddisgrifir isod) neu er mwyn i ni gydymffurfio â’r gyfraith. Byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i adolygu’r wybodaeth sydd gennym, a phan nad oes angen cyfreithiol na busnes arnom dros ei chadw, byddwn naill ai’n ei dileu’n ddiogel neu, mewn rhai achosion, yn ei gwneud yn ddata dienw.
- Ni fyddwn yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
- Mae gennych hawliau pwysig o dan gyfreithiau sydd â’r nod o ddiogelu eich data personol. Mae’r polisi hwn yn amlinellu eich hawliau a sut y gallwch arfer yr hawliau hynny. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran 11 o’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Mae gennych hefyd yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anfodlon â’r modd yr ydym wedi ymdrin â’ch data personol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran 13.
- datblygu parcffordd caerdydd
- Mae Cardiff Parkway Developments Limited (“ni“, “ein“) yn gwmni a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 10358878 ac mae ei swyddfa gofrestredig yn Summers House Pascal Close, Llaneirwg, Caerdydd, y Deyrnas Unedig, CF3 0LW.
- Rydym wedi ein cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a’n rhif cofrestru yw ZA557299.
- y polisi preifatrwydd hwn
- Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu a pharchu eich data personol a’ch preifatrwydd. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu.
- Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i unrhyw ddata personol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, yn gwneud ymholiad drwy ein canolfan gyswllt (Rhadffôn: 0800 1234567; communityrelations@cardiffhendrelakes.com; HENDRE LAKES RHADBOST) a phan fyddwch yn cyfathrebu â ni dros y ffôn, drwy’r post, drwy e-bost neu wyneb yn wyneb.
- Gall yr hysbysiad preifatrwydd hwn newid o bryd i’w gilydd ac, os bydd hynny’n digwydd, bydd y fersiwn gyfredol ar gael ar ein gwefan (www.cardiffhendrelakes.com). Byddwn hefyd yn dweud wrthych chi am unrhyw newidiadau pwysig.
- pa ddata personol rydym yn ei gasglu amdanoch chi?
- Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod y person hwnnw ohoni. Nid yw’n cynnwys data lle mae’r hunaniaeth wedi’i dileu (data dienw).
- Data Hunaniaeth sy’n cynnwys enw cyntaf, enw cyn priodi, enw olaf, enw defnyddiwr neu ddynodydd tebyg, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhywedd.
- Data Cyswllt sy’n cynnwys cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.
- Data Technegol sy’n cynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), eich data mewngofnodi, y math o borwr a’r fersiwn, gosodiad a lleoliad cylchfa amser, mathau a fersiynau o ategion porwr, system weithredu a llwyfan, a thechnoleg arall ar y dyfeisiau rydych chi’n eu defnyddio i gael mynediad i’n gwefan.
- Data Proffil sy’n cynnwys eich enw defnyddiwr, eich dewisiadau, adborth ac ymatebion i arolygon.
- Data Iechyd sy’n cynnwys gwybodaeth am eich gofynion hygyrchedd.
- Data Defnydd sy’n cynnwys gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan, a’n gwasanaethau.
- Rydym hefyd yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu data cyfanredol fel data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gallai data cyfanredol ddeillio o’ch data personol ond ni chaiff ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan na fydd y data hwn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol.
- Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn casglu Categorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch chi (mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am eich iechyd). Dim ond os byddwch yn ei ddarparu i ni mewn ymateb i unrhyw rai o’n hymgynghoriadau neu ein gweithgareddau ymgysylltu y byddwn yn casglu data o’r fath.
- Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth am euogfarnau troseddol a throseddau.
- SUT MAE EICH DATA PERSONOL YN CAEL EI GASGLU?
- Byddwn yn defnyddio dulliau gwahanol i gasglu data oddi wrthych ac amdanoch gan gynnwys drwy:
- Rhyngweithiadau uniongyrchol. Efallai y byddwch yn rhoi eich Data Hunaniaeth a’ch Data Cyswllt i ni drwy lenwi ffurflenni neu drwy ohebu â ni drwy’r post, dros y ffôn, drwy e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol y byddwch yn ei ddarparu pan fyddwch:
- yn cyflwyno ymholiad i ni;
- yn tanysgrifio i’n cylchlythyrau;
- yn rhoi adborth i ni neu’n cysylltu â ni.
- Technolegau neu ryngweithiadau awtomataidd. Wrth i chi ryngweithio â’n gwefan, byddwn yn casglu Data Technegol am eich cyfarpar, eich gweithredoedd a phatrymau pori yn awtomatig. Rydym yn casglu’r data personol hwn trwy ddefnyddio cwcis a thechnolegau eraill tebyg. Gweler adran 12 am ragor o fanylion.
- Ffynonellau trydydd parti neu ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd. Byddwn yn derbyn data personol amdanoch chi gan drydydd partïon a ffynonellau cyhoeddus amrywiol fel y nodir isod:
- Rhyngweithiadau uniongyrchol. Efallai y byddwch yn rhoi eich Data Hunaniaeth a’ch Data Cyswllt i ni drwy lenwi ffurflenni neu drwy ohebu â ni drwy’r post, dros y ffôn, drwy e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol y byddwch yn ei ddarparu pan fyddwch:
- Data Technegol gan y partïon a ganlyn:
Data cwcis gan Google, WordPress a WPML; Data Hunaniaeth a Chyswllt gan ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd megis Tŷ’r Cwmnïau, Cofnodion y Gofrestrfa Tir a’r Gofrestr Etholiadol.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda thrydydd partïon (gan gynnwys, er enghraifft, ein hymgynghorwyr sy’n ein cefnogi gyda gwaith ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid) ac efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi ganddynt hwy. Yn ogystal, efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi gan drydydd partïon sy’n darparu’r wybodaeth honno i ni (e.e. awdurdodau gorfodi’r gyfraith).
- SUT BYDDWYN YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL
- Ni fyddwn ond yn defnyddio eich data personol pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Gan amlaf, byddwn yn defnyddio eich data personol o dan yr amgylchiadau canlynol:
- pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny at y diben penodol yr ydym wedi dweud wrthych amdano;
- pan fo’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu fuddiannau trydydd parti) ac nad yw’ch buddiannau a’ch hawliau sylfaenol chi yn drech na’r buddiannau hynny; neu
- pan fo angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
- Byddwn yn prosesu eich data personol ar sail ein buddiannau cyfreithlon, sef rheoli prosiect Llyn Hendre Caerdydd a Pharcffordd Caerdydd ac ymateb i’ch ymholiadau.
- Isod, rydym wedi nodi rhestr o’r ffyrdd y gallwn ddefnyddio eich data personol, a pha rai o’r seiliau cyfreithiol y byddwn yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi ein buddiannau cyfreithlon lle bo hynny’n briodol.
Noder y gallwn brosesu eich data personol ar fwy nag un sail gyfreithiol yn dibynnu ar y diben penodol y byddwn yn defnyddio eich data ar ei gyfer. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn adran 13 os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Diben/Gweithgaredd | Math o ddata | Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu (gan gynnwys sail buddiant cyfreithlon) |
Eich cofrestru fel cyswllt newydd | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt | Cyflawni contract gyda chi |
Ymateb i’ch ymholiadau neu brosesu eich ceisiadau mewn perthynas â’ch gwybodaeth | (a) HunaniaetH (b) Cyswllt | Cyflawni contract gyda chi |
Cynnal rhestr atal petaech yn dewis peidio â derbyn gohebiaeth | (a) Hunaniaeth | Yn angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (er mwyn sicrhau nad ydym mewn perygl o dorri deddfau diogelu data drwy gyfathrebu â chi pan fyddwch wedi gofyn i ni beidio.) |
Rheoli ein perthynas â chi a fydd yn cynnwys: (a) eich hysbysu am newidiadau i’n telerau neu ein hysbysiad preifatrwydd (b) gofyn i chi gymryd rhan mewn arolwg | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Proffil | (a) Cyflawni contract gyda chi (b) Yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol (c) Yn angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (er mwyn diweddaru ein cofnodion ac i astudio sut mae cysylltiadau’n defnyddio ein gwasanaethau) |
Gweinyddu a diogelu ein busnes a’r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cymorth, adrodd a lletya data) | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Technegol | (a) Yn angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (ar gyfer cynnal ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddu a TG, diogelwch rhwydwaith, i atal twyll, ac yng nghyd-destun ad-drefnu busnes neu ymarferiad ailstrwythuro grŵp) (b) Yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol |
Sicrhau bod unrhyw ofynion ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith o ran eich hygyrchedd i unrhyw safleoedd datblygu a/neu adeiladau | (a) Data Iechyd | (a) Cydsyniad (b) Yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol |
Defnyddio gwaith dadansoddi data i wella ein gwefan, cynnyrch/ gwasanaethau, marchnata, perthynas â chwsmeriaid a’u profiadau | (a) Technegol (b) Defnydd | Yn angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiffinio mathau o gwsmeriaid ar gyfer ein cynnyrch a’n gwasanaethau, er mwyn diweddaru ein gwefan, datblygu ein busnes a llywio ein strategaeth farchnata) |
Sefydlu, arfer ac amddiffyn ein hawliau cyfreithiol | Pob math o ddata y cyfeirir ato ym mharagraff 3.2 | (a) Yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol (b) Yn angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (at ddiben sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol) |
Newid pwrpas
Ni fyddwn ond yn defnyddio eich data personol at y dibenion y gwnaethom ei gasglu ar eu cyfer, oni bai ein bod yn credu’n rhesymol bod angen i ni ei ddefnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r diben gwreiddiol. Os hoffech gael esboniad ynghylch sut byddai’r modd y byddwn yn prosesu eich data ar gyfer y diben newydd yn gydnaws â’r diben gwreiddiol, cysylltwch â ni.
Os bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol at ddiben nad yw’n gysylltiedig, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn egluro’r sail gyfreithiol sy’n ein galluogi i wneud hynny.
Noder y gallwn brosesu eich data personol heb eich bod yn gwybod nac yn cydsynio, yn unol â’r rheolau uchod, pan fydd hyn yn ofynnol neu’n cael ei ganiatáu gan y gyfraith.
- Cyfathrebu
- Cylchlythyrau
- Byddwch yn derbyn cylchlythyrau gennym os ydych wedi gofyn am wybodaeth gennym neu wedi cofrestru ar ein rhestr bostio ac nad ydych wedi eithrio eich hun o dderbyn y cylchlythyrau hynny. Os ydych wedi cydsynio i dderbyn ein cylchlythyrau a’ch bod yn newid eich meddwl, gallwch newid eich dewisiadau a datdanysgrifio ar unrhyw adeg drwy ddatdanysgrifio o’r sianel gyfathrebu berthnasol, neu drwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn adran 13.
- Marchnata
- Ni fyddwn yn defnyddio eich data personol i anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol.
- Byddwn yn cael eich cydsyniad datganedig drwy optio i mewn cyn i ni rannu eich data personol gydag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata.
- Cylchlythyrau
- DATGELU EICH DATA PERSONOL
- Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â’r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl uchod.
- Trydydd partïon mewnol fel ein cyfranddalwyr
- Trydydd partïon allanol fel:
- ARUP, ein hymgynghorwyr dylunio a chynllunio;
- Copper Consultancy, ein hymgynghorwyr cyfathrebu a marchnata;
- SLC Rail, ein hymgynghorwyr rheilffyrdd masnachol a thechnegol;
- darparwyr gwasanaethau TG;
- cynghorwyr proffesiynol; a
- ymgynghorwyr/darparwyr gwasanaethau eraill.
- Trydydd partïon y gallwn ddewis gwerthu neu drosglwyddo rhannau o’n busnes neu ein hasedau iddynt neu drydydd partïon y gallwn ddewis uno rhannau o’n busnes neu’n hasedau â hwy. Fel arall, efallai y byddwn yn ceisio caffael busnesau eraill neu uno â hwy. Os bydd newid yn digwydd i’n busnes, yna gall y perchenogion newydd ddefnyddio eich data personol yn yr un ffordd ag a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
- Trydydd partïon allanol fel:
- Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond caniatáu iddynt brosesu eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â’n cyfarwyddiadau a wnawn.
- TROSGLWYDDIADAU RHYNGWLADOL
- Ni fyddwn yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
- DIOGELWCH DATA
- Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei ddefnyddio neu ei gyrchu mewn modd nas awdurdodwyd, ei newid, ei ddatgelu neu ei golli yn ddamweiniol. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu ar fynediad at eich data personol i’r gweithwyr, yr asiantau, y contractwyr a’r trydydd partïon eraill hynny y mae angen busnes arnynt ar gyfer y wybodaeth honno. Ni fyddant ond yn prosesu eich data personol yn unol â’n cyfarwyddiadau ni ac mae dyletswydd cyfrinachedd arnynt.
- Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw achos a amheuir o dor diogelwch data personol, a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol ynghylch unrhyw dor diogelwch pan fo’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
- CADW DATA
- Ni fyddwn ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y gwnaethom ei gasglu ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu adrodd. Efallai y byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hirach os bydd cwyn neu os credwn yn rhesymol fod yna bosibilrwydd o ymgyfreitha o ran ein perthynas â chi.
- Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg posibl o niwed yn sgil defnydd anawdurdodedig neu ddatgelu eich data personol, at ba ddibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ac a allwn gyflawni’r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol, rheoliadol, treth, cyfrifyddu neu ofynion eraill perthnasol.
- Mae manylion cyfnodau cadw ar gyfer gwahanol agweddau ar eich data personol ar gael yn ein polisi cadw a gallwch gysylltu â ni am gopi o’r polisi hwn.
- Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data: gweler eich hawliau cyfreithiol isod am ragor o wybodaeth.
- Mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn gwneud eich data personol yn ddata dienw (fel nad oes modd ei gysylltu â chi) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, ac os felly, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb roi rhybudd pellach i chi.
- EICH HAWLIAU CYFREITHIOL
- O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawliau o dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â’ch data personol. Mae gennych hawl i ofyn i ni:
- rhoi copi i chi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch;
- diweddaru unrhyw elfen o’ch gwybodaeth bersonol os yw’n anghywir neu wedi dyddio;
- dileu’r data personol sydd gennym amdanoch chi – os byddwn yn darparu gwasanaethau i chi a’ch bod yn gofyn i ni ddileu data personol sydd gennym amdanoch, yna efallai na fyddwn yn gallu parhau i ddarparu’r gwasanaethau hynny i chi;
- cyfyngu ar y ffordd rydym yn prosesu eich data personol;
- rhoi’r gorau i brosesu eich data os oes gennych wrthwynebiadau dilys i brosesu o’r fath; a
- throsglwyddo eich data personol i drydydd parti.
- Os ydych am arfer unrhyw rai o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir yn adran 13.
- Nid oes angen talu ffi fel arfer Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn yn codi ffi resymol os yw eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Fel arall, gallem wrthod cydymffurfio â’ch cais o dan yr amgylchiadau hyn.
- Yr hyn y gallai fod ei angen arnom gennych chi – Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych chi i’n helpu ni i gadarnhau pwy ydych chi a sicrhau eich hawl i weld eich data personol (neu i arfer unrhyw rai o’ch hawliau eraill). Mesur diogelwch yw hwn i sicrhau na ddatgelir data personol i unrhyw berson nad oes ganddo hawl i’w gael. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi hefyd i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais er mwyn cyflymu ein hymateb.
- Terfyn amser i ymateb – Byddwn yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. Weithiau, gallai gymryd mwy na mis os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr achos hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob hyn a hyn.
- CWCIS
- Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis. Gweler ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth. (www.cardiffhendrelakes.com/cookies-policy)
- CYSYLLTWCH â NI
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
- Cyfeiriad e-bost: communityrelations@cardiffhendrelakes.com
- Cyfeiriad post: HENDRE LAKES RHADBOST
- Mae gennych yr hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, awdurdod goruchwylio’r Deyrnas Unedig ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ymdrin â’ch pryderon cyn i chi gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.