Rydym bellach wedi cyflwyno ein ceisiadau cynllunio i Gyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd ar gyfer Llynnoedd Hendre a gorsaf drenau Parcffordd Caerdydd.

Drwy gyrraedd y garreg filltir gyffrous hon, rydym wedi dod gam yn nes at ddod â gorsaf drenau newydd ac ardal fusnes gysylltiedig i’r rhan hon o dde Cymru, gan gysylltu pobl a busnesau, cyflawni swyddi ac annog buddsoddiad.

Cyflwynwyd ein ceisiadau yn dilyn cyfnod ymgynghori cyn-ymgeisio dros bum wythnos, a fu’n rhedeg rhwng dydd Mercher 05 Awst a dydd Mercher 09 Medi 2020,  a llunio’r fersiwn derfynol o’r cynigion ar ol hynny.

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y cyfnod ymgynghori ym mis Awst a mis Medi 2020, ac i’r rheini a rannodd eu barn yn ystod ein cyfnod cynnar o ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhaliwyd yn 2019. Mae’r adborth hwn wedi ein helpu i lunio ein cynigion ac wedi dangos lefelau uchel o gefnogaeth ar gyfer buddion posibl y prosiect i’r ardal.

Cafodd y ceisiadau cynllunio eu dilysu gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd ac maent ar gael i’w gweld:

E-bost: communityrelations@cardiffhendrelakes.com

Rhadffôn: 0800 464 0850

Rhadbost: RHADBOST LLYNNOEDD HENDRE

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am Lynnoedd Hendre Caerdydd

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch
ar gyfer ein rhestr bostio:

Newsletter signup