Mae dyluniadau manylach o Barcffordd Caerdydd, gorsaf reilffordd newydd arfaethedig i’r de o Barc Busnes Llaneirwg, wedi cael eu datgelu ar ôl iddi gael ei chymeradwyo gan Gomisiwn Burns ac Adolygiad Hendy.

Disgwylir i’r orsaf newydd, y mae Cyngor Caerdydd wrthi’n gwneud penderfyniad cynllunio yn ei chylch, wella cysylltedd yn sylweddol ar gyfer dwyrain Caerdydd a gorllewin Casnewydd a chroesawu mwy na 800,000 o deithwyr y flwyddyn gyda theithiau saith munud o hyd yn unig i Gaerdydd Canolog a Chasnewydd De Cymru.   Mae’r orsaf yn rhan o Fetro De Cymru, ac mae’n un o argymhellion allweddol Comisiwn “Burns” Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Yn fwyaf diweddar, cafodd argymhellion Burns, yn cynnwys gorsafoedd newydd fel Parcffordd Caerdydd, eu cymeradwyo gan Adolygiad Hendy o Gysylltedd yr Undeb.

Mae un o’r delweddau diweddaraf yn dangos golygfa o’r orsaf o un o’r pedwar platfform, a fydd yn gwasanaethu llwybrau lleol a llwybrau uniongyrchol y brif reilffordd i rannau eraill o’r DU, gan gynnwys Llundain, Gogledd Cymru, Manceinion, Bryste a De-orllewin Lloegr. Mae’r ddelwedd arall yn dangos golygfa o’r tu mewn i adeilad yr orsaf, gyda lifrau Trafnidiaeth Cymru.

Mae Parcffordd Caerdydd yn rhan o ddatblygiad ardal fusnes ehangach 90,000 metr sgwâr a allai gefnogi hyd at 6,000 o swyddi, gyda chanolfan drafnidiaeth gynaliadwy sy’n hyrwyddo teithio llesol, a mynediad hawdd i wasanaethau rheilffordd rheolaidd.  Bydd y cysylltedd gwell hwn yn helpu’r gymuned leol i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth eraill ledled de Cymru a thu hwnt. Ar yr un pryd, gall pobl o’r rhanbarth ehangach deithio i’r ardal fusnes ar y rheilffordd, gan osgoi traffig a helpu’r amgylchedd.  Bydd y datblygiad yn cyfrannu’n sylweddol at adfywio dwyrain Caerdydd ac uchelgeisiau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran ei thwf.

Dywedodd Nigel Roberts, Cadeirydd Datblygiadau Parcffordd Caerdydd: “Mae ein cynigion yn cynnwys ardal fusnes ardd gynaliadwy â chysylltiadau da, y mae trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn ganolog iddi. Bydd y datblygiad unigryw hwn yn denu buddsoddiad i ardal sydd wedi dioddef tanfuddsoddiad ers tro, yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd ac yn cynnig cysylltiadau gwell i bobl yn y rhanbarth hwn o dde-ddwyrain Cymru. Ein nod yw darparu gwasanaethau cyfleus a chyflym sy’n rhoi profiad o ansawdd uchel i’r cwsmer, yn enwedig o ran trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, er mwyn sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis amlwg.

“Er bod yr heriau digynsail y mae pob un ohonom wedi gorfod eu hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi effeithio ar ein rhaglen, mae ein tîm mor frwdfrydig ag erioed. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda rhanddeiliaid allweddol i baratoi ar gyfer cyflwyno’r cynllun ac rydym yn falch bod Syr Peter Hendy wedi cymeradwyo adroddiad yr Arglwydd Burns, y mae Parcffordd Caerdydd yn un o’r argymhellion allweddol ynddo. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at roi’r argymhelliad hwnnw ar waith er mwyn pawb gan ddechrau ar y safle y flwyddyn nesaf, cyn gynted ag y bydd penderfyniad wedi’i wneud ynghylch ein cais cynllunio.”

Ffeithiau allweddol am Barcffordd Caerdydd

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am Lynnoedd Hendre Caerdydd

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch
ar gyfer ein rhestr bostio:

Newsletter signup