Y mis hwn, gwnaethom gyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer ardal fusnes a hyb trafnidiaeth gynaliadwy newydd ac rydym yn eich gwahodd i’n helpu i lunio ein cynigion drwy rannu eich safbwyntiau â ni tan ddydd Mercher 18 Rhagfyr.

Nod Llynnoedd Hendre Caerdydd, a gaiff ei wasanaethu gan orsaf drenau Parcffordd Caerdydd, yw cyfrannu’n sylweddol at adfywio dwyrain Caerdydd drwy ddod â chysylltedd, swyddi a buddsoddiad i’r ardal.

Mae’r ardal i’r de o Barc Busnes Llaneirwg, ac mae wedi’i neilltuo ar gyfer defnydd cyflogaeth yng Nghynllun Datblygu Lleol Cyngor Caerdydd, a bydd yn cyfrannu at y broses o gyflawni uchelgeisiau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran twf.

Lleisio eich barn

Rydym yn awyddus i’r prosiect sicrhau cymaint o fudd â phosibl i’r gymuned leol ac rydym eisoes wedi bod yn cydweithio â chynghorwyr lleol, ACau, ASau ac amrywiaeth o randdeiliaid eraill i ddatblygu ein cynlluniau.

Rydym yn cynnal cyfnod o bedair wythnos o ymgysylltu â’r cyhoedd lle gallwch rannu eich safbwyntiau a’ch awgrymiadau ar y datblygiad. Mae gennych gyfle tan ddydd Mercher 18 Rhagfyr i leisio eich barn am y prosiect – a’r hyn yr hoffech ei weld yn digwydd drwy lenwi holiadur byr ar-lein neu drwy ddod i un o’n digwyddiadau cyhoeddus:

Digwyddiad cyfarfod â’r tîm: Llaneirwg

  • Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2019
  • 10am – 2pm
  • Hyb Llaneirwg, 30 Crickhowell Road, Llaneirwg, CF3 0EF

Digwyddiad cyfarfod â’r tîm: Maerun

  • Dydd Llun 25 Tachwedd 2019
  • 3pm – 7pm
  • Capel Bedyddwyr Castleton, Ffordd Llaneirwg, Maerun, CF3 2TX

Y camau nesaf

Unwaith y byddwn wedi casglu eich holl adborth, byddwn yn ystyried yr ymatebion a, lle y bo’n bosibl, yn eu cynnwys wrth i ni barhau â’r gwaith o ddylunio ar gyfer y cynllun. Yna, byddwn yn rhannu ein cynigion terfynol â chi mewn ymgynghoriad ffurfiol (statudol) ar ddechrau 2020, cyn i ni gyflwyno ein cais cynllunio.

Ewch i’n tudalen Cymryd Rhan i ddarganfod sut y gallwch leisio eich barn.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am Lynnoedd Hendre Caerdydd

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch
ar gyfer ein rhestr bostio:

Newsletter signup