Nigel Roberts, Cadeirydd Gweithredol Datblygiadau Parcffordd Caerdydd, yn croesawu’r gymuned i wefan newydd Llynnoedd Hendre Caerdydd, ardal fusnes newydd arfaethedig a wasanaethir gan orsaf drenau Parcffordd Caerdydd.

Fel rhywun sy’n dod o Dde Cymru, mae’n bleser gennyf rannu’r dyluniadau cynnar o’n prosiect cyffrous.

Mae Llynnoedd Hendre Caerdydd yn ddatblygiad uchelgeisiol sydd â’r nod o wella twf yn y rhanbarth. Nod y datblygiad hwn hefyd yw darparu ystod o fuddiannau, megis swyddi, buddsoddiad a gwell cysylltiadau teithio, ar gyfer yr ardal leol a’r rhanbarth ehangach.

Yn y cyfamser, mae Parcffordd Caerdydd yn orsaf drenau newydd yn natblygiad Llynnoedd Hendre a fydd yn gwella cysylltedd yn lleol yn ogystal â chysylltiadau ag ardaloedd eraill yn y DU.

Rydym eisoes wedi bod yn gweithio gyda chynghorwyr lleol, ACau, ASau a rhanddeiliaid eraill, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Network Rail a Trafnidiaeth Cymru, i ddatblygu ein cynlluniau.

Eich tro chi yw cymryd rhan nawr. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cynnal cyfnod o ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gynnwys digwyddiadau yn y gymuned leol, lle gallwch rannu eich safbwyntiau i’n helpu i lunio ein cynigion.

Ewch i’n tudalen Cymryd Rhan i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch rannu eich safbwyntiau ar Lynnoedd Hendre Caerdydd neu Barcffordd Caerdydd

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am Lynnoedd Hendre Caerdydd

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch
ar gyfer ein rhestr bostio:

Newsletter signup