Gan Nigel Roberts, Datblygiadau Parcffordd Caerdydd

Mae’n debyg eich bod yn gwybod am ein cynlluniau i ddatblygu gorsaf drenau newydd yn Nwyrain Caerdydd, o’r enw Parcffordd Caerdydd, ynghyd ag ardal fusnes gynaliadwy a fydd wedi’i chysylltu’n arbennig o dda.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru alw’r penderfyniad caniatâd cynllunio i mewn ym mis Hydref 2022, ar ôl i Gyngor Caerdydd benderfynu caniatáu’r cais ym mis Ebrill 2022.  Mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r materion a godwyd.  Roedden ni’n meddwl ei bod hi’n gyfle da i ni roi gwybod i chi am gynnydd y prosiect a’i statws ar hyn o bryd.

Wythnos diwethaf, fe wnaethon ni gyflwyno ein hachos i arolygydd cynllunio mewn gwrandawiad cyhoeddus, gyda Chyngor Caerdydd a Cyfoeth Naturiol Cymru.  Roedd yr Arolygydd hefyd wedi clywed safbwyntiau partïon eraill sydd â diddordeb, gyda rhai o blaid y cynllun ac eraill yn ei erbyn.  Cyn y gwrandawiad roedd rhai pryderon wedi cael eu codi ynghylch sut byddem yn cyflawni rhan o’n cynigion lliniaru amgylcheddol.  Rydyn ni bob tro wedi gwneud pethau’n iawn ac yn ofalus, felly roedden ni’n gallu mynd i’r afael â’r materion hyn drwy gytuno i gael yr arbenigwyr priodol yn rhan o’r gwaith o gymeradwyo’r mesurau lliniaru perthnasol. 

Roedd yr Arolygydd hefyd wedi gofyn i ni fynd i’r afael yn ysgrifenedig ag ychydig o faterion eraill.  Mae’n gobeithio ysgrifennu ei adroddiad a chyflwyno argymhelliad i Weinidogion Cymru erbyn diwedd mis Awst.  Bydd Gweinidogion Cymru wedyn yn penderfynu a ydyn nhw am ganiatáu neu wrthod y datblygiad, er nad oes yn rhaid iddyn nhw ddilyn argymhelliad yr Arolygydd.  Gobeithio bydd y Gweinidogion yn gwneud y penderfyniad cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r oedi a fu drwy gydol COVID a’r broses o alw’r cais cynllunio i mewn wedi bod yn rhwystredig.  Mae nifer o bobl wedi ysgrifennu atom yn gofyn am ddiweddariadau am y cynnydd, felly rydyn ni’n gwybod bod yr oedi wedi bod yn rhwystredig i lawer ohonoch chithau hefyd. 

Rydyn ni wedi cael ymgysylltiad calonogol gyda chyflogwyr sy’n chwilio am adeiladau o ansawdd uchel sy’n caniatáu iddyn nhw dyfu yn y dyfodol.  Maen nhw wedi dangos diddordeb cryf ym Mharcffordd Caerdydd, hyd yn oed ar y cam cynnar hwn.  Rydyn ni’n hyderus y gallwn ni ddarparu lle sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaol os bydd y cynllun yn cael ei ganiatáu.

Rydyn ni’n dal wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu ardal fusnes gynaliadwy sydd wedi’i chysylltu’n dda, ardal gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol wrth ei chalon.  Byddai’r orsaf drenau newydd yn un o’r gorsafoedd newydd cyntaf i gael eu cyflawni o blith y rheini a gafodd eu hargymell gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru Burns.  Bydd Parcffordd Caerdydd yn dod â gwell cysylltedd, swyddi newydd a buddsoddiad i Dde Cymru.  Bydd yn cymryd amser i’w gyflawni, ond mae’n werth ei wneud, ac rydyn ni’n dal wedi ymrwymo i weld y prosiect yn cael ei gyflawni.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am Lynnoedd Hendre Caerdydd

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch
ar gyfer ein rhestr bostio:

Newsletter signup