Gwahoddir preswylwyr lleol i ddweud eu dweud am y cynigion ar gyfer Llynnoedd Hendre a Pharcffordd Caerdydd, sef gorsaf drenau arfaethedig newydd rhwng Caerdydd a Chasnewydd, cyn cyflwyno cais cynllunio amlinellol. Mae Parcffordd Caerdydd hefyd wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn y broses o gymeradwyo gorsaf drenau.

Nod datblygiad 90,000 metr sgwâr Llynnoedd Hendre Caerdydd, sy’n cynnwys gorsaf drenau Parcffordd Caerdydd, yw cysylltu De Cymru, gan ddod â swyddi a buddsoddiad i’r rhanbarth. Wedi’i leoli i’r de o Barc Busnes Llaneirwg, mae Llynnoedd Hendre Caerdydd wedi’i neilltuo ar gyfer defnydd cyflogaeth yng Nghynllun Datblygu Lleol Cyngor Caerdydd.

Bydd y datblygiad yn cyfrannu’n sylweddol at adfywio dwyrain Caerdydd ac uchelgeisiau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran ei thwf. Mae gan Lynnoedd Hendre Caerdydd y potensial i gefnogi hyd at 6,000 o swyddi, yn ogystal â gweithredu fel hwb trafnidiaeth gynaliadwy, gan helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth eraill ledled De Cymru a thu hwnt.

Mae’r cyfnod ymgynghori, a fydd yn rhedeg rhwng dydd Mercher 05 Awst a dydd Mercher 09 Medi 2020, yn dilyn cyfnod o weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhaliwyd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr y llynedd. Nod y gwaith ymgysylltu hwn oedd sicrhau bod pobl leol yn cael cyfle i ddeall buddiannau posibl y prosiect a gwneud sylwadau ar y cynigion ar gam cynnar yn y broses ddylunio.

Dywedodd Nigel Roberts, Cadeirydd Datblygiadau Parcffordd Caerdydd: “Roedd y gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd y llynedd yn llwyddiannus iawn, gyda mwy na 250 o bobl leol yn dod i’n digwyddiadau galw heibio. Cawsom adborth gan lawer o bobl ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Llynnoedd Hendre a Pharcffordd Caerdydd. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran – roedd y gefnogaeth a roddwyd i’r prosiect yn anhygoel ac roedd y mewnbwn a gawsom yn werthfawr.

“Rydym wedi ystyried yr adborth a gawsom wrth greu datblygiad a fydd yn dod â buddsoddiad i’r rhanbarth, yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd ac yn cysylltu pobl â thirwedd hanesyddol. Rydym bellach yn cynnal ymgynghoriad cyn- ymgeisio ffurfiol cyn cyflwyno ein cais cynllunio amlinellol i Gyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd yn ddiweddarach yr haf hwn.

“O ganlyniad i bandemig coronafeirws, ni fyddwn yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau galw heibio i’r cyhoedd y tro hwn. Fodd bynnag, rydym wedi rhannu llawer o wybodaeth ar ein gwefan, ac yn gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn i Gymru.”

Bydd y gymuned leol yn cael gwahoddiad i roi adborth ar y cynigion yn ystod y cyfnod ymgynghori, a fydd yn para am bum wythnos. Gall pobl ddysgu mwy am y prosiect a rhannu eu barn ar-lein unwaith y bydd yr ymgynghoriad yn agor ar 05 Awst drwy fynd i’r wefan www.llynnoeddhendrecaerdydd.com

Hefyd, mae’r prosiect bellach wedi cael tystysgrif Llywodraethu ar gyfer Prosiectau Buddsoddi mewn Rheilffyrdd 3 (GRIP 3) gan Network Rail, sy’n sicrhau bod prosiectau’n mynd drwy broses sicrhau ansawdd gadarn. Gweithiodd tîm Parcffordd Caerdydd gyda Network Rail a rhanddeiliaid allweddol eraill i ystyried opsiynau dylunio gwahanol cyn cael y dystysgrif. Bydd tîm y prosiect yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant rheilffyrdd a phob un o’r rhanddeiliaid allweddol i gwblhau dyluniad terfynol yr orsaf.

Aeth Mr Roberts ymlaen i ddweud: “Rydym wrth ein bodd bod y prosiect wedi symud cam ymhellach tuag at gael ei wireddu ar gyfer pobl De Cymru. Byddwn yn mynd ati nawr i barhau i fireinio’r dyluniadau manwl i greu gorsaf drenau ac ardal fusnes ehangach a fydd yn cysylltu pobl dwyrain Caerdydd a thu hwnt yn well ac yn eu gwasanaethu’n well.

“Mae gwaith ymgysylltu cadarnhaol â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth a gweithredwyr rheilffyrdd, eisoes yn mynd rhagddo, ac rydym yn gweithio fel rhan o grŵp diwydiant mwy i adolygu amserlenni a llwybrau o fis Rhagfyr 2022.”

Gall pobl gael mwy o wybodaeth am y prosiect a rhannu eu barn ar-lein unwaith y bydd yr ymgynghoriad yn agor ar 05 Awst.  

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am Lynnoedd Hendre Caerdydd

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch
ar gyfer ein rhestr bostio:

Newsletter signup