Cardiff Parkway Developments Limited
Telerau Defnyddio

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2019

AMDANOM NI

Croeso i’n gwefan. Mae www.cardiffhendrelakes.com yn wefan a gaiff ei gweithredu gan Cardiff Parkway Developments Limited (“ni“, “ein“). Rydym wedi ein cofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 10358878, ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Summers House, Pascal Close, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0LW. Rydym yn gwmni cyfyngedig. Os hoffech gysylltu â ni, gallwch wneud hynny drwy e-bost: communityrelations@cardiffhendrelakes.com.

2. DRWY DDEFNYDDIO EIN GWEFAN, RYDYCH YN DERBYN Y TELERAU HYN

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych yn cytuno i’r telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

3. TELERAU ERAILL A ALL FOD YN BERTHNASOL I CHI

Mae’r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o’n gwefan.

  • Ein Polisi Preifatrwydd Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y pennawd ‘Sut y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol’.
  • Ein Polisi Cwcis, sy’n cynnwys gwybodaeth am y cwcis ar ein gwefan.

4. NEWIDIADAU I’R TELERAU DEFNYDDIO HYN A’N GWEFAN

Rydym yn diwygio’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Dylech wirio’r telerau hyn o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy’n berthnasol i’ch defnydd o’n gwefan.

Gallwn hefyd ddiweddaru a newid ein gwefan o bryd i’w gilydd wrth i brosiectau Llyn Hendre Caerdydd a Pharcffordd Caerdydd ddatblygu. Byddwn yn dweud wrthych am unrhyw newidiadau mawr.

5. GALLWN ATAL NEU DYNNU EIN GWEFAN YN ÔL

Mae ein gwefan ar gael yn rhad ac am ddim. Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, neu unrhyw gynnwys arni, bob amser ar gael neu ar gael yn ddi-dor. Gallwn atal, tynnu’n ôl neu gyfyngu ar argaeledd unrhyw ran o’n gwefan, neu’r cyfan ohoni, am resymau busnes a gweithredol. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi o unrhyw ataliad neu dynnu’n ôl.

Chi hefyd sy’n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n defnyddio ein gwefan drwy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau defnyddio hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw,

  1. GWEFAN AR GYFER DEFNYDDWYR YNG NGWLEDYDD PRYDAIN YN UNIG YW HON

Bwriedir i’n gwefan gael ei defnyddio gan bobl sy’n byw yng ngwledydd Prydain, ac yn benodol, pobl sydd â diddordeb ym mhrosiectau Llyn Hendre Caerdydd a Pharcffordd Caerdydd. Nid ydym yn honni bod y cynnwys sydd ar gael ar ein gwefan, neu drwy’r wefan, yn briodol i’w ddefnyddio neu ar gael mewn lleoliadau eraill.

  1. SUT RYDYCH YN DEFNYDDIO EIN GWEFAN

Os ydych chi’n dewis creu cod adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Rhaid i chi beidio â’i datgelu i unrhyw drydydd parti.

Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, p’un a yw wedi’i ddewis gennych chi neu wedi’i ddarparu gennym ni, ar unrhyw adeg os ydych, yn ein barn resymol ni, wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn.

Os ydych yn amau neu’n gwybod bod rhywun heblaw chi’n gwybod eich cod adnabod defnyddiwr neu’ch cyfrinair, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib drwy anfon e-bost i: communityrelations@cardiffhendrelakes.com.

Ni yw perchennog neu drwyddedai holl hawliau eiddo deallusol ein gwefan, a’r deunydd a gyhoeddir arni. Diogelir y gweithiau hynny gan hawlfraint a chytuniadau ledled y byd. Cedwir pob hawl o’r fath.

Cewch argraffu un copi, a lawrlwytho darnau, o unrhyw dudalen(nau) o’n gwefan at eich defnydd personol, a chewch dynnu sylw pobl eraill yn eich sefydliad at gynnwys a bostiwyd ar ein gwefan.

Rhaid i chi beidio ag addasu’r copïau caled a digidol o unrhyw ddeunyddiau rydych wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, dilyniannu o fideo na sain nac unrhyw graffeg, ar wahân i unrhyw destun cysylltiedig.

Rhaid cydnabod ein statws (ac unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron y cynnwys ar ein gwefan bob amser.

Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.

Os byddwch yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefan yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl ein dewis, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau rydych wedi’u gwneud.

  1. PEIDIWCH Â DIBYNNU AR WYBODAETH AR Y WEFAN HON

Darperir y cynnwys ar ein gwefan ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyfystyr â chyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd unrhyw gamau gweithredu ar sail y cynnwys ar ein gwefan, neu cyn ymatal rhag gwneud hynny.

Rydym yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein gwefan. Fodd bynnag, nid ydym yn gwneud unrhyw honiadau, sicrwydd na gwarantau, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg, bod y cynnwys ar ein gwefan yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.

  1. NID YDYM YN GYFRIFOL AM WEFANNAU ERAILL RYDYM YN CREU DOLENNI IDDYNT

O dro i dro, gall y wefan hon hefyd gynnwys dolenni at wefannau eraill lle nad oes gennym unrhyw reolaeth drostynt. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i chi i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid ydym yn cymeradwyo’r gwefannau hynny na’r wybodaeth y gallech ei chael arnynt.

Unwaith y byddwch wedi defnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarparwch wrth ymweld â gwefannau o’r fath, ac nid yw’r gwefannau hynny’n cael eu rheoli gan ein Polisi Preifatrwydd. Dylech gymryd gofal a darllen y Polisi Preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Ni chewch greu dolen i’r wefan hon o wefan neu ddogfen arall heb ein caniatâd ysgrifenedig ni ymlaen llaw.

  1. EIN CYFRIFOLDEB AM GOLLED NEU DDIFROD A DDIODDEFWYD GENNYCH CHI

P’un a ydych chi’n ddefnyddiwr arferol neu’n ddefnyddiwr busnes:

Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ein hatebolrwydd i chi lle byddai’n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein cyflogeion, asiantau neu isgontractwyr, ac am dwyll neu gamliwio twyllodrus.

Os ydych yn ddefnyddiwr busnes:

Rydym yn eithrio pob amod, gwarant, honiad neu delerau ymhlyg eraill a all fod yn berthnasol i’n gwefan neu unrhyw gynnwys arni.

Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeuluster), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os gellir ei ragweld, sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â (1) defnydd o’n gwefan, neu anallu i’w defnyddio; neu (2) defnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys sy’n cael ei arddangos ar ein gwefan.

Yn benodol, ni fyddwn yn atebol am y canlynol: colli elw, gwerthiannau, busnes neu refeniw; ymyrraeth i fusnes; colli arbedion a ragwelir; colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; nac unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol.

Os ydych yn ddefnyddiwr arferol:

Noder mai ar gyfer defnydd domestig a phreifat yn unig rydym yn darparu ein gwefan. Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio ein gwefan ar gyfer unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid ydym yn atebol i chi am golli elw, colli busnes, ymyrraeth i fusnes, na cholli cyfle busnes.

  1. SUT Y GALLWN DDEFNYDDIO EICH GWYBODAETH BERSONOL

Dim ond i’r diben sydd wedi’i nodi yn ein Polisi Preifatrwydd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol [www.cardiffhendrelakes.com/privacy-policy/].

  1. NID YDYM YN GYFRIFOL AM FIRYSAU A RHAID I CHI BEIDIO Â’U CYFLWYNO I’N GWEFAN

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan yn ddiogel nac yn rhydd rhag bygiau na firysau. Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch platfform i gael mynediad i’n gwefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firysau eich hun.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan drwy gyflwyno firysau, ceffylau pren Troea, mwydod, bomiau rhesymeg na deunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol yn fwriadol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i’n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan wedi’i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sydd wedi’i chysylltu â’n gwefan. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefan drwy ymosodiad atal gwasanaeth nac ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig. Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw drosedd o’r fath i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol, a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych chi. Os digwydd achos o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio’n gwefan yn dod i ben ar unwaith.

  1. RHEOLAU YNGHYLCH CREU DOLENNI I’N GWEFAN

Cewch greu dolenni i’n tudalen hafan neu unrhyw dudalen arolwg, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithiol ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

Rhaid i chi beidio â chreu dolen yn y fath fodd sy’n awgrymu bod unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni lle nad oes un yn bodoli.

Rydym yn cadw’r hawl i dynnu ein caniatâd i greu dolenni yn ôl heb rybudd. Os hoffech greu dolen i’n gwefan neu wneud unrhyw ddefnydd o gynnwys ein gwefan ar wahân i’r hyn a nodir uchod, cysylltwch â ni: communityrelations@cardiffhendrelakes.com.

  1. GALLWN DROSGLWYDDO’R CYTUNDEB HWN I RYWUN ARALL

Gallwn drosglwyddo ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan y telerau hyn i sefydliad arall. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig os bydd hyn yn digwydd, a byddwn yn sicrhau na fydd y trosglwyddiad yn effeithio ar eich hawliau o dan y contract.

  1. ANGHYDFODAU

Os ydych chi’n ddefnyddiwr arferol, sylwch fod y telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiad yn cael eu rheoli gan gyfraith Cymru a Lloegr. Rydych chi a ni yn cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth lwyr-gyfyngedig oni bai eich bod yn breswylydd yng Ngogledd Iwerddon, lle gallech hefyd ddwyn achos yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych yn breswylydd yn yr Alban, lle gallech hefyd ddwyn achos yn yr Alban.

Os ydych chi’n ddefnyddiwr busnes, mae’r telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiad (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau di-gontract) yn cael eu rheoli gan gyfraith Cymru a Lloegr. Mae’r ddau barti’n cytuno ag awdurdodaeth lwyr-gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.